Croeso i'r modiwl Bwyta'n Iach i blant rhwng 5 ac 8 oed. Mae'r modiwl hwn yn cefnogi dysgu plant ysgolion cynradd am fwyta'n iach, fel y dangosir ar y plât bwyta'n iach. Mae gwybodaeth wahaniaethol ar gyfer plant o wahanol oedran yn y modiwl hwn ac mae'n cynnwys taflenni gwaith, cyflwyniadau PowerPoint, cardiau bwyd a ffotograffau a gweithgareddau bwrdd gwyn rhyngweithiol.
Canllaw i Athrawon
Bydd y canllaw hwn yn eich cynorthwyo i gynllunio cyfres o wersi llwyddiannus sydd yn edrych ar fwyta'n iach i blant rhwng 5 a 8 oed. Mae'r negeseuon a'r cysyniadau ar gyfer y modiwl hwn yn deillio o'r plât bwyta'n iach - model bwyta'n iach y DU.
Ffeithiau Allweddol
Mae'r negeseuon a'r cysyniadau allweddol yn cael eu cyflwyno trwy 3 Ffaith Allweddol:
- - Mae bwyd yn ofyniad hanfodol bywyd.
- - Mae pobl yn dewis gwahanol fathau o fwyd
- - Rydym angen amrywiaeth a chydbwysedd o fwyd i gadw'n iach, fel y dangosir ar y plât bwyta'n iach.
Pam Ffeithiau Allweddol?
Datblygwyd y 3 Ffaith Allweddol i ddarparu ymagwedd gynhwysfawr a blaengar tuag at addysgu bwyta'n iach. Mae'n darparu fframwaith i adeiladu arni gan sicrhau bod negeseuon cyson a diweddaraf yn cael eu cyflwyno yn yr ysgol.
Trwy ddefnyddio'r fframwaith hon, bydd plant yn cael eu cyflwyno'n raddol i'r cysyniadau bod bwyd yn hanfod sylfaenol bywyd a bod angen i ni fwyta amrywiaeth a chydbwysedd o fwydydd i gadw'n iach... Bydd yr ymagwedd hon yn sicrhau bod plant yn gallu cymhwyso bwyta'n iach i'w bywydau eu hunain - nawr ac yn y dyfodol.
Argymhellir bod pob Ffaith Allweddol yn cael eu dysgu yn ôl eu trefn - i sicrhau bod datblygiad clir mewn dysgu a dealltwriaeth o gysyniadau sylfaenol.
Mae'r Ffeithiau Allweddol yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer creu eich gwersi eich hun.
Ffaith Allweddol 1: Mae bwyd yn ofyniad hanfodol i fywyd.
Amcanion dysgu:
- Deall bod bwyd yn ofyniad hanfodol bywyd.
- Deall bod angen bwyd arnom i dyfu, i fod yn weithgar ac i gynnal iechyd.
Adnoddau y gellir eu lawr lwytho.
Ffaith Allweddol 2: Mae pobl yn dewis mathau gwahanol o fwyd.
Amcanion dysgu:
- Er mwyn gallu siarad am fwydydd y maent yn eu hoffi ac yn eu casáu gyda rhesymau.
- Er mwyn deall ein bod yn bwyta gwahanol fwydydd yn dibynnu ar adeg o'r dydd, achlysur a ffordd o fyw.
- Er mwyn adnabod y 5 grwp o'r plât bwyta'n iach.
- Er mwyn gallu didoli detholiad o fwydydd i'r grwpiau bwyd bwyta'n dda.
- Er mwyn gallu creu pryd o fwyd cytbwys trwy ddewis bwydydd o wahanol grwpiau bwyd.
Adnoddau y gellir eu lawr lwytho.
Ffaith Allweddol 3: Mae angen i ni fwyta amrywiaeth a chydbwysedd o fwydydd i aros yn iach, fel y dangosir yn y plât bwyta'n iach.
Amcanion dysgu:
- Er mwyn gwybod y dylai pawb fwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd.
Adnoddau y gellir eu lawr lwytho: