
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gynllunio cyfres o wersi llwyddiannus, archwilio ffermio llaeth a chynhyrchu a phrosesu bwydydd llaeth, ar gyfer disgyblion rhwng 11 a 16 oed. Datblygwyd yr adnoddau i fod yn addas i'w newid ar gyfer eich anghenion addysgu, teimlwch yn rhydd i'w defnyddio yn achlysurol a dewis y rhai mwyaf perthnasol i'ch gwersi. Mae'r adnoddau hyn yn cefnogi ystod eang o feysydd y cwricwlwm, gan gynnwys gwyddoniaeth, technoleg bwyd, gwyddor cartref, daearyddiaeth, iechyd a lles, ac addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd. Mae fformat yr astudiaeth achos yn cynnig y negeseuon diweddaraf, cywir a chyson i ddisgyblion ac athrawon.