Gweithgareddau 5 Y DIWRNOD
Nod y sesiwn hon yw i blant:
- esbonio ei bod yn bwysig bwyta llawer o ffrwythau a llysiau gwahanol i gadw'n iach (o leiaf 5 y dydd, bob dydd);
- rhoi enw ar amrywiaeth o ffrwythau a llysiau.
Fe fyddwch chi angen:
- Cardiau ffrwythau - torri allan, lamineiddio (dewisol)
- Cardiau llysiau - torri allan, lamineiddio (dewisol)
- Byrddau bingo ffrwythau a llysiau - torri allan, lamineiddio (dewisol)
- 16 x cownteri
- Canllaw blasu
- 5 x ffrwythau neu lysiau cadarn
- Bag ffabrig
Gwrando ac ymateb
Dangoswch i'r plant ddarn o ddelweddau o'r cardiau Ffrwythau a'r cardiau Llysiau a gofynnwch iddyn nhw enwi'r ffrwythau neu'r llysiau a ddangosir. Eglurwch fod angen i ni i gyd fwyta llawer o ffrwythau a llysiau gwahanol i fod yn iach. Mae'n rhaid i ni fwyta o leiaf 5 math gwahanol bob dydd.
Gofynnwch i'r plant ddweud wrth y person wrth eu hymyl un neu ddau o'r ffrwythau a'r llysiau maen nhw wedi'u bwyta yn ystod y dyddiau diwethaf. Dewiswch rai o'r plant i roi gwybod pa ffrwythau neu lysiau y mae'r person nesaf iddyn nhw wedi eu bwyta.
Gofynnwch i'r plant dreulio ychydig funudau yn meddwl am eu hoff ffrwythau neu hoff lysiau. Dewiswch ychydig o'r plant yn eu tro i ddisgrifio eu hoff ffrwythau neu lysiau, heb ei enwi, a gweld a all gweddill y plant ddyfalu beth ydyw.
Siaradwch am y ffrwythau a'r llysiau y gellid eu bwyta yn ystod diwrnod. Rhestrwch y gwahanol achlysuron prydau bwyd a byrbrydau ar y bwrdd i helpu. Er enghraifft:
- brecwast – banana wedi'i dorri ar rawnfwyd brecwast;
- byrbryd canol bore – satsuma;
- cinio – ffyn ciwcymbr ac afal;
- cinio nos - Corn-ar-y--Cob.
Ailadroddwch hyn, gan ofyn i'r plant enwi'r ffrwythau a'r llysiau yr hoffent eu cael ar wahanol adegau o'r dydd. Cyfrwch y ffrwythau a'r llysiau gyda'i gilydd i sicrhau bod o leiaf bump bob tro y bydd y dasg yn cael ei hailadrodd.
Dangoswch y cardiau Ffrwythau a'r cardiau Llysiau i helpu i atgoffa'r plant am rai o'r ffrwythau a'r llysiau gwahanol y gellir eu bwyta. Gallech gyfeirio'n ddyddiol at y rhain, a gofyn i'r plant a ydyn nhw wedi bwyta unrhyw un o'r ffrwythau a'r llysiau o'r delweddau gartref.
Rhowch gynnig arni
Gweithgaredd 1 – 4 chwaraewr. Chwarae bingo ffrwythau a llysiau. Bydd angen bwrdd bingo ffrwythau a llysiau ar bob plentyn. O'r cardiau Ffrwythau a'r cardiau Llysiau, dewiswch y bwyd canlynol i'w defnyddio yn ystod y gêm o bingo: mango, bricyll sych, ffrwyth kiwi, llus, eirin gwlanog, satswma, mwyar duon. panas, brocoli, moron, bresych, blodfresych, pys, seleri, letys a radis. Cymysgwch y cardiau a galw allan yr holl ffrwythau neu lysiau yn eu tro. Os bydd gan unrhyw un o'r plant y ffrwythau neu'r llysiau sydd yn cael eu galw, gallant ei orchuddio â chownter. Wrth i bob plentyn gwblhau bwrdd, gallant helpu ffrind.
Gweithgaredd 2 – grŵp bach. Sefydlu sesiwn blasu ffrwythau a llysiau. Dewiswch 3-5 o ffrwythau a llysiau gwahanol i'w blasu gyda'r plant. Dangoswch i'r plant sut i flasu'r samplau gan ddefnyddio eu synhwyrau - beth allan nhw arogli, teimlo, blasu a chlywed? Am fanylion llawn am gynnal sesiwn blasu, edrychwch ar y canllaw Blasu.
Atgyfnerthu
Heb i'r plant weld, rhowch ffrwythau neu lysiau mewn bag. Pasiwch y bag i'r plant a'u cael i deimlo'r ffrwythau neu'r llysiau, a disgrifio sut mae'n teimlo. Gadewch i dri neu bedwar o blant roi cynnig arni cyn i chi ddatgelu beth ydyw. Ailadroddwch hyn gyda'r ffrwythau a'r llysiau eraill, gan roi pob un yn y bag un ar y tro. Gadewch i wahanol blant roi cynnig ar bob ffrwyth neu lysiau. (Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio ffrwythau a llysiau a fydd yn gallu cael eu trin yn dda.)
Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?