Canllaw bwyta’n dda
Dysgu
Nod y sesiwn hon yw i blant:
- adnabod y Canllaw Bwyta'n Dda;
- enwi rhai o'r bwydydd ym mhob grŵp bwyd;
- egluro fod angen gwahanol fathau o fwyd arnom, a 6-8 diod y dydd, i fod yn iach.
Fe fyddwch chi angen:
- Gwybodaeth Canllaw Bwyta’n Dda
- Poster Canllaw Bwyta'n Dda (sylfaenol)
- Cardiau lluniau bwyd - torri allan, lamineiddio (dewisol)
- Y gêm bwyta'n dda - lamineiddio (dewisol)
- Y cardiau bwyd gêm bwyta'n dda - torri allan, lamineiddio (dewisol)
- Bwrdd neu wal
- Tac
- Pensiliau lliwio
Gwrando ac ymateb
Darllenwch yr wybodaeth Canllaw Bwyta'n Dda cyn y sesiwn. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth gefndir bwysig i gefnogi eich addysgu.
Dangoswch y poster Canllaw Bwyta’n Dda (sylfaenol). Gofynnwch i'r plant:
- Beth allwch chi ei weld? (Siâp crwn, gwahanol rannau lliw, gwydr.)
- Pa fwydydd allwch chi eu gweld yn y llun yma?
Esboniwch mai enw’r llun ydy'r Canllaw Bwyta'n Dda ac mae'n dangos i ni beth sydd angen i ni ei fwyta a'i yfed i fod yn iach. Holwch y plant i'w helpu i ymgysylltu â'r Canllaw Bwyta'n Dda.
- Beth ydy'r ddau grŵp mwyaf ar y Canllaw Bwyta'n Dda?
- Pa fwydydd ydych ch’n gallu eu gweld yn y grwpiau hyn?
- Beth ydy'r grŵp lleiaf?
- Pa fwyd allwch chi ei weld yn y grŵp hwn?
- Pa rai ydy’r grwpiau maint canol?
- Pa fwyd allwch chi ei weld yn y grwpiau hyn?
- Pa fwyd allwch chi ei weld yn y grŵp lleiaf?
- Lle mae'r – wyau, tomatos, bara, pysgod, llaeth?
- Pa fwyd yn y llun ydych chi wedi ei fwyta heddiw?
- Faint o ddiodydd rydyn ni eu hangen bob dydd?
Crynhoi bod y Canllaw Bwyta'n Dda yn dangos i ni beth sydd angen i ni ei fwyta a'i yfed i fod yn iach. Mae'n ein helpu i gofio bod angen gwahanol fathau o fwydydd arnom, a 6-8 o ddiodydd dydd, i fod yn iach.
Rhowch gynnig arni
Gofynnwch i'r plant eich helpu i ddidoli'r delweddau Bwyd (o Bwyd a Diod – sesiwn ddewisiadau) i'r grwpiau bwyd cywir trwy eu tacio neu eu rhoi o amgylch y poster Canllaw Bwyta’n Dda (sylfaenol).
Atgyfnerthu
Chwaraewch y gêm bwyta'n dda gyda'r plant mewn grwpiau o bedwar. Bydd angen copi o'r bwrdd ar bob plentyn. Dim ond un copi o'r cardiau bwyd gêm bwyta'n iach fydd eu hangen. Cymysgwch y cardiau a'u gosod wyneb i lawr yng nghanol y bwrdd. Cyfarwyddwch y plant i gymryd eu tro i gymryd cerdyn, os ydyn nhw yn gallu ei roi ar eu byrddau, gallant ei gadw, os na, rhaid ei ddychwelyd i waelod y pentwr. Mae'r plentyn cyntaf i lenwi ei fwrdd yn ennill y gêm a gall helpu ffrind nes bod yr holl fyrddau wedi'u llenwi.
Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?