Dewisiadau – gweithgareddau
Dysgu
Nod y sesiwn hon yw i blant:
- enwi detholiad o wahanol fwydydd;
- mynegi barn am wahanol fwydydd;
- egluro fod gwahanol bobl yn aml yn hoffi bwyta bwyd gwahanol.
Fe fyddwch chi angen
- Cardiau lluniau bwyd
- Fy llyfr bwyd
- Torri a gludo bwydydd
- Siswrn
- Glud
- Pensiliau lliwio
Gwrando ac ymateb
Siarad am fwyta ac yfed. Gofynnwch i'r plant:
- Beth ydych chi wedi ei fwyta heddiw?
- Beth wnaethoch chi ei yfed heddiw?
- Beth arall ydych chi’n meddwl y byddwch chi yn ei fwyta a'i yfed heddiw?
- Pa fwyd a diod ydych chi'n ei hoffi?
- Ydyn ni i gyd yn hoffi'r un bwyd a diod?
- Beth mae eich teulu a'ch ffrindiau yn hoffi ei fwyta ac yfed
Rhoi cynnig arni
Dangoswch y cardiau lluniau bwyd i'r plant un ar y tro. Gofynnwch i'r plant enwi'r ddelwedd ac yna gofynnwch iddyn nhw ymateb gyda bodiau i fyny ar gyfer rydw i’n ei hoffi, mae bawd hanner ffordd ar gyfer ei fod yn iawn a bodiau i lawr ar gyfer dydw i ddim yn ei hoffi. Gofynnwch i rai o'r plant esbonio eu rhesymau. Canolbwyntiwch yn helaethach ar pam mae plant yn mwynhau bwydydd gwahanol, yn hytrach na'u cas bethau. Pwysleisiwch bod gwahanol bobl yn hoffi gwahanol fwydydd a diodydd. Gofynnwch i'r plant siarad am rai o’r bwydydd a diodydd mae eu ffrindiau a'u teuluoedd yn hoffi. Efallai y byddwch am gael enghreifftiau o fwydydd i blant i’w trin.
Atgyfnerthu
Rhowch gopïau o Fy llyfr bwyd i'r plant, neu dim ond y drydedd dudalen o'r enw 'Rydw i'n hoffi'r bwyd yma', a chopïau o'r Torri a gludo bwydydd. Gofynnwch i'r plant ddewis tri bwyd maen nhw'n eu hoffi o'r delweddau a thorri a gludo’r rhain ar y dudalen. Neu, gallech roi detholiad o gylchgronau i'r plant sy'n cynnwys gwahanol fwydydd a gallent dorri a gludo’r rhain ar y dudalen neu ar ddalen fawr o bapur i greu arddangosfa.
Estyniad
Rhowch y dudalen 'Mae fy_______ yn hoffi___________' i'r plant o lyfr Fy llyfr bwyd. Gofynnwch iddyn nhw ddewis dau aelod o'r teulu neu ffrindiau a thynnu lluniau, neu dorri a gludo delweddau ar y dudalen hon i ddangos y mathau o fwydydd mae eu dau berson dewisol yn eu hoffi. Gallwch chi ysgrifennu'r enw a'r bwyd yn y mannau a ddarperir.
Pwysleisio bod gwahanol bobl yn aml yn hoffi bwyta bwydydd gwahanol.
Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?