Symiau

Nod y sesiwn hon yw i blant: adnabod bod grwpiau bwyd Canllaw Bwyta’n Dda yn wahanol feintiau a bod hyn yn dangos faint o fwyd sydd ei angen ar bob grŵp arnom; disgrifio faint o wahanol fathau o fwydydd sydd eu hangen i gadw'n iach gan ddefnyddio'r termau llawer, rhai, ychydig ac nid oes eu hangen.

Symiau – gweithgareddau

Dysgu

Nod y sesiwn hon yw i blant:

  • adnabod bod grwpiau bwyd Canllaw Bwyta’n Dda yn wahanol feintiau a bod hyn yn dangos faint o fwyd sydd ei angen ar bob grŵp arnom;
  • disgrifio faint o wahanol fathau o fwydydd sydd eu hangen i gadw'n iach gan ddefnyddio'r termau llawer, rhai, ychydig ac nid oes eu hangen.

Fe fyddwch chi angen:

  • Cyflwyniad Gadewch i ni fwyta'n dda a chadw'n iach!
  • jig-so Canllaw Bwyta’n Dda - torri allan, lamineiddio (dewisol)
  • Tac
  • Bwrdd neu wal
  • Bag

Gwrando ac ymateb

Darllenwch y cyflwyniad Gadewch i ni fwyta'n dda a  chadw’n iach! i’r plant. Gellid dangos hyn fel cyflwyniad neu ei argraffu a'i arddangos. Gofynnwch y cwestiynau yn y cyflwyniad a thrafodwch y bwyd gyda'r plant, e.e. Ydych chi wedi blasu’r bwyd yma? Pa fwyd yw eich hoff fwyd?

Rhowch gynnig arni

Dangoswch un o jig-sos y Canllaw Bwyta’n Dda i'r plant, e.e. grŵp bwyd ffrwythau a llysiau. Rhannwch y pedwar darn i bedwar plentyn gwahanol. Gofynnwch iddyn nhw ddod i'r blaen un ar y tro a gosod eu darn ar y bwrdd neu'r wal fel ei fod yn ffitio'n gywir gyda'r darnau eraill. Gofynnwch y cwestiynnau canlynol:

  • Pa fwyd sy'n perthyn i'r grŵp hwn? Beth allwch chi ei weld?
  • Ydy hwn yn grŵp bwyd mawr neu ganolig?
  • Ddylen ni fwyta llawer neu ychydig o fwyd o'r grŵp hwn?
  • Beth ydy eich hoff fwyd yn y grŵp hwn?
  • Ydych chi wedi bwyta unrhyw fwyd o'r grŵp hwn heddiw?

Mae'r jig-so yn canolbwyntio ar y pedwar prif grŵp bwyd. Holwch y plant i weld a allant gofio'r negeseuon o'r cyflwyniad am fwyd a diodydd eraill. Gofynnwch iddyn nhw a ydyn nhw'n gallu enwi unrhyw fwyd y mae angen ychydig ohono arnon ni. Gofynnwch a allant enwi unrhyw fwyd neu ddiodydd nad oes eu hangen ar gyfer iechyd. Heriwch nhw i egluro faint a pha mor aml y gallen nhw gael y bwydydd a'r diodydd 'nad oes eu hangen', os ydyn nhw am gael y rhain. (Dim ond ychydig a dim ond weithiau.)

Atgyfnerthu

Gweithgaredd 1 – pedwar chwaraewr. Gan ddefnyddio un jig-so ar y tro, rhowch un darn i bob plentyn ac yna gofynnwch iddyn nhw helpu i roi'r jig-so at ei gilydd. Wrth i bob jig-so gael ei gwblhau, ailadroddwch y cwestiynau o'r adran Rhowch gynnig arni.

Gweithgaredd 2 – pedwar chwaraewr. Cymysgwch yr holl ddarnau o'r pedwar jig-so a'u troi wyneb i lawr.  Rhowch grŵp bwyd i bob plentyn. (Efallai y byddwch am roi copi printiedig o'r jig-so llawn i bob plentyn ar gyfer eu grŵp bwyd i'w helpu i nodi'r darnau y mae angen iddyn nhw eu casglu.) Gadewch i'r plant gymryd eu tro yn dewis darn jig-so. Os nad yw'r darn y maen nhw yn ei droi yn perthyn i'w grŵp, rhaid iddyn nhw ei roi yn ôl, wyneb i lawr a gadael i'r plentyn nesaf gymryd ei dro. Os yw'r darn yn dod o'u grŵp bwyd, gallant ei gadw. Y nod yw i'r plant ddod o hyd i'w holl ddarnau a rhoi eu jig-so at ei gilydd. Edrychwch ar yr holl jig-sos gorffenedig ac atgyfnerthu'r syniad bod angen i ni fwyta bwydydd gwahanol o'r pedwar prif grŵp hyn i fod yn iach. A allant weld unrhyw fwydydd y maen nhw eisoes wedi'u bwyta, neu a fyddan nhw yn eu bwyta'n ddiweddarach heddiw?

Gweithgaredd 3 – 16 chwaraewr. Rhowch yr holl ddarnau o'r pedwar jig-so mewn bag a gofynnwch i bob plentyn gymryd darn. Gofynnwch i’r plant  symud o gwmpas a dod o hyd i blant eraill gyda darnau o'r un grŵp bwyd.  Pan fyddan nhw yn gwneud hynny, gallant roi eu holl ddarnau at ei gilydd i gwblhau'r jig-so. Gellir cwblhau'r gweithgaredd hwn fel ras, neu ei ddefnyddio i gael plant i mewn i grwpiau o bedwar at ddibenion eraill.

Nodyn: Nid yw'r pedwar jig-so wedi'u cynllunio i gael eu cyfuno i greu Canllaw Bwyta'n Dda llawn. Mae pob jig-so wedi'i gynllunio i gynnwys un grŵp bwyd yn unig.

3 - 5 YR
Gadewch i ni fwyta’n dda!

Cyflwyniad am fwyta ac yfed yn dda.

3 - 5 YR
Jig-sos y Canllaw Bwyta’n Dda

Pôs jig-so Canllaw Bwyta’n Dda syml.

Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?