Blasu
Dysgu
Nod y sesiwn hon yw i blant:
- blasu bwyd newydd, yn hapus;
- gweld fod angen i ni roi cynnig ar fwyd newydd ychydig o weithiau i ddarganfod os ydym yn ei hoffi.
Fe fyddwch chi angen
- Llythyr gwirio cynhwysion – anfonwch gartref at rieni/gofalwyr cyn y wers
- Dau neu dri o ffrwythau a llysiau gwahanol ar gyfer blasu
- Canllaw blasu
- Fy llyfr bwyd – tudalen 'Rydw i wyf wedi blasu’r bwyd yma’
- Offer i baratoi, cyflwyno a gweini'r bwyd i'w flasu
- Tywelion papur/rholyn cegin
- Pensiliau lliwio
- Tystysgrifau Blaswr gwych!
Paratoi cyn y sesiwn
Paratowch y ffrwythau a'r llysiau fel bod gennych enghraifft gyfan a thoredig o bob un. Cyn i chi baratoi'r samplau, darllenwch y canllaw Blasu. Sicrhewch fod y samplau'n cael eu paratoi a'u storio'n lanwaith fel eu bod yn ddiogel i'w bwyta.
(Gallech gynnal sesiwn blasu gydag unrhyw fwyd yr hoffech i'r plant eu blasu, e.e. caws gwahanol, bara.)
Gwrando ac ymateb
Eglurwch i'r plant y byddan nhw yn blasu ffrwythau a llysiau. Siaradwch â nhw am bwysigrwydd blasu bwyd gwahanol i ddarganfod beth maen nhw'n ei fwynhau a chael profiadau newydd. Eglurwch ein bod weithiau yn meddwl nad ydyn ni yn hoffi bwyd, ond mae angen i ni ei flasu eto, efallai ychydig o weithiau, oherwydd mae beth rydyn ni’n feddwl yn gallu newid.
Dangoswch ffrwyth neu lysieuyn cyfan i'r plant. Gofynnwch iddyn nhw ddweud sut maen nhw'n meddwl y bydd yn edrych y tu mewn. Dangoswch iddyn nhw sut mae'n edrych wedi ei haneru ac mewn darnau maint sampl. Siaradwch am sut y gellid ei fwyta, e.e. fel byrbryd, gyda phryd o fwyd, mewn brechdan.
Dangoswch i'r plant sut i wneud y gwaith blasu.
Defnyddiwch lwy neu fforc i weini sampl i chi'ch hun ar dywel papur neu ddarn o bapur cegin. Esboniwch i'r plant eich bod yn gwneud hyn fel nad ydych yn cyffwrdd â'r samplau y bydd eraill yn eu bwyta. Rydych chi'n defnyddio'r llwy/fforc i gymryd eich darn ac yna dim ond ei gyffwrdd pan fydd ar eich papur tywel/papur cegin.
Siaradwch am sut mae'n edrych ac arogleuo. Rhowch gynnig arni ac eglurwch beth rydych chi'n ei flasu, e.e. mae'n eithaf meddal, mae'n sudd, mae'n amrwd, mae'n felys.
Dangoswch dudalen blasu 'Rydw i wedi blasu’r bwyd yma’ i'r plant o'r llyfr Fy llyfr bwyd a dangos sut rydych chi'n mynd i'w lenwi, e.e. gludwch lun o'r bwyd yn y llyfr, neu tynnwch ei lun. Lliwiwch yr wyneb i ddangos beth oeddech chi'n ei feddwl o'r bwyd.
Nodyn: Gallwch ddefnyddio'r llyfr Fy mwyd yn ei gyfanrwydd, neu gopïo'r dudalen 'Rydw i wedi blasu’r bwyd yma’.
Rhowch gynnig arni
Gwnewch yn siŵr bod pob plentyn wedi ymolchi a sychu eu dwylo. Gweithiwch gyda’r plant mewn grwpiau o bedwar. Dangoswch y dudalen 'Rydw i wedi blasu’r bwyd yma' iddyn nhw. Eglurwch y byddan nhw yn ei lenwi fel y gallant gofio'r hyn maen nhw wedi'i flasu ac os ydyn nhw'n hoffi'r bwyd neu a oes angen iddyn nhw ei flasu eto dro arall. Gadewch i'r plant weld sampl bwyd a siarad am sut mae'n edrych. Gofynnwch iddyn nhw sut maen nhw'n meddwl y gallai flasu a theimlo yn eu ceg. Gadewch iddynt weini sampl eu hunain sampl ac
yna arogli’r bwyd. Gofynnwch iddyn nhw esbonio ei arogl. Yn olaf, gadewch iddyn nhw flasu. Annogwch ymatebion cadarnhaol. Gofynnwch 'r plant gofnodi'r hyn maen nhw'n ei feddwl ar y dudalen 'Rydw i wedi blasu’r bwyd yma'. Efallai yr hoffent dynnu llun o'r bwyd, neu fe allech chi ddarparu delweddau iddyn nhw i’w gludo yn eu llyfrau. Gadewch iddyn nhw liwio wyneb i ddangos beth maen nhw'n ei feddwl. Gwenu = Rydw i'n ei hoffi. Ceg syth = Dydw i ddim yn siŵr os ydw i'n hoffi hwn. Wyneb trist = Dydw i ddim yn meddwl fy mod i'n hoffi hwn nawr, ond byddaf yn rhoi cynnig arni eto dro arall.
Ailadroddwch y gweithgaredd hwn gyda'r plant ar sawl achlysur, gyda bwyd gwahanol. Bob tro maen nhw'n blasu bwyd newydd, helpwch nhw i lenwi eu llyfr Fy mwyd neu gopi o'r dudalen berthnasol, fel y gallwch gadw cofnod o'r hyn maen nhw wedi ei flasu. Mae dau dystysgrif blaswr Gwych gwahanol! y gellir eu dyfarnu. Un sy'n cynnwys y cymeriad Alisha, ac un sy'n cynnwys y cymeriad Ronnie. Gall pob plentyn ddewis yr un sydd orau ganddyn nhw.
Atgyfnerthu
Siaradwch â'r plant am yr hyn y maen nw wedi ei flasu. Clodforwch nhw am flasu'r bwyd yn synhwyrol. Pwysleisiwch bwysigrwydd ail-flasu bwyd y maen nhw'n credu nad ydyn nhw'n ei hoffi, efallai dair i bum gwaith i weld a ydyn nhw'n newid eu meddwl. Cyflwynwch dystysgrif blaswr Gwych i'r plant! Dywedwch wrthyn nhw am fynd â nhw adref a dweud wrth eu rhieni/gofalwyr pa mor dda maen nhw wedi'i wneud i flasu bwydydd gwahanol.
Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?