Gwneud

Nod y sesiwn hon yw i blant: gwneud bwyd syml gan ddefnyddio sgiliau bwyd sylfaenol; enwi'r sgiliau a ddefnyddir i baratoi'r rysáit; esbonio sut mae cynhwysion yn newid pan fyddan nhw yn cael eu paratoi.

Gwneud

Dysgu

Nod y sesiwn hon yw i blant:

  • gwneud bwyd syml gan ddefnyddio sgiliau bwyd sylfaenol;
  • enwi'r sgiliau a ddefnyddir i baratoi'r rysáit;
  • esbonio sut mae cynhwysion yn newid pan fyddan nhw yn cael eu paratoi.

 

Fe fyddwch chi angen

  • Creu canllaw sesiwn coginio
  • Cardiau paratoi i goginio
  • Rysáit a chyflwyniad cyfatebol - mae ryseitiau ar gael o'r wefan Bwyd – ffeithiau bywyd yn yr adran Ryseitiau. Byddwch angen yr offer a'r cynhwysion a restrir ar y rysáit.

 

Gwrando ac ymateb

Cyn y sesiwn bydd angen i chi drefnu eich ardal goginio. Cyfeiriwch at y canllaw Creu sesiwn goginio i’ch helpu. Bydd angen i chi hefyd gasglu a threfnu'r cynhwysion a'r offer sydd eu hangen i wneud y bwyd. Mae pob rysáit yn nodi sut y bydd yn cael ei wneud neu ei weini . Bydd angen i chi luosi'r cynhwysion yn dibynnu ar nifer y plant a fydd yn gwneud y rysáit.

Eglurwch i'r plant beth fyddan nhw'n ei goginio. Gofynnwch iddyn nhw weld a ydyn nhw'n gallu cofio'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud cyn iddyn nhw baratoi i goginio. Gallech ddefnyddio neu arddangos y cardiau Paratoi i goginio i atgoffa'r plant.  Dangoswch y cyflwyniad sy'n cyfateb i'r rysáit y bydd y plant yn ei wneud. Gallech ddangos hyn ar gyfrifiadur neu ar fwrdd gwyn rhyngweithiol.  Fel arall, argraffwch y cyflwyniad, dangoswch neu arddangoswch bob sleid argraffedig, a siaradwch am sut mae'r rysáit yn cael ei wneud. Gofynnwch i'r plant:

 

Pa fath o fwyd allwch chi ei weld?

Pa offer allwch chi weld?

Beth sy'n digwydd / pa sgiliau sy'n cael eu defnyddio?

Sut mae'r bwyd yn newid?

 

Rhowch gynnig arni

Gweithiwch gyda'r plant mewn grwpiau o bedwar i baratoi'r rysáit.  Byddwch yn barod i goginio a helpu'r plant i baratoi. Gweithiwch gyda'r plant i wneud y bwyd. Siaradwch am weithio'n ofalus, a dangoswch iddyn nhw sut i ddefnyddio'r offer yn ddiogel. Wrth i chi wneud y bwyd gyda'r plant, heriwch nhw i enwi offer a sgiliau sy'n cael eu defnyddio. Siaradwch am yr effaith y mae'r paratoi yn ei gael ar y cynhwysion trwy holi'r plant tra bod pob cynhwysyn yn cael ei baratoi, e.e. Beth ydyn ni'n ei wneud i'r bwyd hwn? Pa offer rydyn ni'n eu defnyddio? Sut mae'r bwyd yn newid? Gofynnwch i'r plant ddweud wrthych chi sut olwg oedd ar y cynhwysyn cyn ac ar ôl a sut mae wedi newid. Pam mae angen i ni newid y cynhwysyn?

 

Atgyfnerthu

Gadewch i'r plant flasu'r hyn maen nhw wedi'i wneud.  Trafodwch sut mae'n edrych, arogli a blasu.  Gallai'r plant lenwi'r ddalen 'Rydw i wedi blasu’r bwyd yma’ o Fy llyfr bwyd (o'r sesiwn Bwyd a Diod – sesiwn dewisiadau). Ailadroddwch y gweithgaredd coginio hwn dro arall gyda rysáit gwahanol.

3 - 5 YR
Cardiau paratoi i goginio

Pump cerdyn as phob un yn dangos cam paratoi i goginio

3 - 5 YR
Cyflwyniad Fy llyfr bwyd

Cyflwyniad y gellir ei argraffu a’i ddefnyddio fel llyfr i gofnodi profiad bwyd.

3 - 5 YR
Creu sesiwn goginio

Canllaw i gefnogi creu sesiwn goginio.

Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?