Hylendid

Nod y sesiwn hon yw i blant: enwi a disgrifio’r camau 'paratoi i goginio'; esboniwch ei bod yn bwysig paratoi i goginio fel bod y bwyd rydyn ni'n ei baratoi yn ddiogel i'w fwyta.

Hylendid

Dysgu

Nod y sesiwn hon yw i blant:

  • enwi a disgrifio’r camau 'paratoi i goginio';
  • esboniwch ei bod yn bwysig paratoi i goginio fel bod y bwyd rydyn ni'n ei baratoi yn ddiogel i'w fwyta.

 

Fe fyddwch chi angen:

  • Cyflwyniad paratoi i goginio
  • Gêm paratoi i goginio
  • Rhetsr ticio paratoi i goginio
  • Cardiau paratoi i goginio – torri allan ac arddangos (lamineiddio dewisol).
  • Paratoi cyn y sesiwn

Paratowch y gêm paratoi i goginio. Argraffwch neu rhowch y gêm ar gerdyn tenau. Torrwch allan y saeth, gwnewch dwll yng nghanol y pen cylchol gyda pin hollt ac yna gwthio'r pin hollt trwy'r cylch bach du yng nghanol y bwrdd.

Efallai y byddwch yn dymuno lamineiddio'ch copïau o'r rhestr ticio paratoi i goginio fel y gellir eu defnyddio gyda peniau bwrdd ac yna eu sychu'n lân i'w hailddefnyddio.

Gwrando ac ymateb

Gofynnwch i'r plant beth maen nhw'n meddwl y byddai angen iddyn nhw ei wneud cyn coginio. Darllenwch y cyflwyniad Paratoi i goginio i'r plant.   Gellir dangos hyn fel cyflwyniad neu ei argraffu a'i ddefnyddio fel llyfr neu arddangosfa. Holwch y plant am baratoi i goginio gan ddefnyddio'r cwestiynau yn y cyflwyniad. Esboniwch fod angen i ni ddilyn y camau hyn i sicrhau ein bod yn barod i goginio, a bod y bwyd rydyn ni'n ei baratoi yn ddiogel i'w fwyta.

Rhowch gynnig arni

Gofynnwch i wirfoddolwr ddangos i bawb sut i baratoi i goginio. Gallwch gytuno ar hyn gyda phlentyn ymlaen llaw; gallent wisgo top llewys hir, bandiau arddwrn neu oriawr a gadael gwallt hir i lawr, i wneud yr arddangosiad yn fwy effeithiol. Gofynnwch i'r plant eraill beth mae'n rhaid i'r plentyn ei wneud i fod yn barod i goginio. Ydyn nhw'n gallu cofio beth oedd yn y cyflwyniad Paratoi i goginio?  Gofynnwch i'r plentyn wneud un peth ar y tro a siarad am pam mae angen ei wneud cyn i ni ddechrau coginio. Mae'n rhaid i ni:

  • tynnu unrhyw emwaith - fel nad yw'n syrthio i'r bwyd;
  • clymu gwallt hir yn ôl – fel nad yw'n syrthio i'r bwyd ac nid oes angen i chi ei gyffwrdd tra byddwch yn coginio (e.e. os yw’n syrthio i’ch llygaid);
  • torchi llewys hir  – fel nad ydyn nhw yn cyffwrdd y bwyd ac i'w cadw'n lân;
  • gwisgo ffedog – i gadw unrhyw beth ar ddillad (e.e. blew anifeiliaid, lliain, baw) rhag syrthio i'r bwyd, yn ogystal ag i warchod dillad wrth goginio;
  • ymolchi a sychu dwylo'n ofalus – i wneud yn siŵr eu bod yn lân i gadw'r bwyd yn ddiogel i'w fwyta.
  • Gallech chi arddangos y cardiau Paratoi i goginio i helpu'r plant i gofio beth sydd angen iddyn nhw ei wneud cyn iddyn nhw goginio.

Atgyfnerthu

Chwaraewch y gêm Paratoi i goginio gyda phedwar i chwech o blant. Bydd angen i bob plentyn gael copi o'r rhestr ticio Paratoi i goginio.  Y nod yw i'r plant helpu Alisha neu Ronnie i baratoi i goginio trwy gasglu'r holl gamau paratoi i goginio. Dylai'r plant ei gymryd yn eu tro i droelli'r saeth.  Os yw'n glanio ar gam Paratoi i goginio, e.e. ymolchi dwylo, gallant dicio/lliwio hyn ar eu taflen ticiau. Y person cyntaf i dicio pob cam, sydd yn ennill.

3 - 5 YR
Cyflwyniad paratoi i goginio

Cyflwyniad am sut i baratoi i goginio.

3 - 5 YR
Cardiau paratoi i goginio

Pump cerdyn as phob un yn dangos cam paratoi i goginio

3 - 5 YR
Gêm paratoi i goginio

Gêm am baratoi i goginio.

3 - 5 YR
Rhesrt ticio paratoi i goginio

Rhestr ticio am y camau paratoi i goginio.

Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?