Offer

Nod y sesiwn hon yw i blant: enwi amrywiaeth o offer cegin; esbonio sut mae gwahanol ddarnau o offer cegin yn cael eu defnyddio.

Offer

Dysgu

Nod y sesiwn hon yw i blant:

  • enwi amrywiaeth o offer cegin;
  • esbonio sut mae gwahanol ddarnau o offer cegin yn cael eu defnyddio.

 

Fe fyddwch chi angen

  • Amrywiaeth o offer cegin, e.e. jygiau mesur, bwrdd torri, powlen gymysgu, siswrn cegin, pin rholio, torwyr, menig popty, gratiwr
  • Cardiau offer cegin – os nad oes gennych offer cegin ar gael, gallech ddefnyddio'r cardiau hyn
  • Bocs i guddio'r offer – gyda chaead neu ddarn o ddeunydd i orchuddio'r cynnwys
  • Jig-sos offer cegin - torri allan (a phob darn o offer wedi'i dorri'n dair rhan), wedi'i lamineiddio (dewisol)
  • Rysáit tartiau tiwna campus (os ydych chi'n gwneud Gweithgaredd 2) - byddwch angen offer a chynhwysion i wneud y rysáit hwn. Mae ryseitiau amgen ar gael o wefan Bwyd – ffeithiau bywyd yn yr adran Ryseitiau.

 

Gwrando ac ymateb

Esboniwch i'r plant fod gennych chi ychydig o offer yn y blwch ac rydych chi'n mynd i weld a allan nhw ddyfalu enw pob eitem. Codwch ddarn o offer cegin o'r bocs yn araf fel bod y plant yn gallu gweld rhan fach, e.e. handlen.  Gofynnwch iddyn nhw ddyfalu beth ydy'r eitem.  Datgelwch yr eitem a'i thrafod gyda'r plant gan ddefnyddio'r cwestiynau canlynol:

  • Beth mae hwn yn cael ei alw?
  • Ydych chi wedi ei weld o'r blaen? Ble?
  • Beth mae'n ei wneud?
  • A oes ganddo unrhyw rannau miniog y byddai'n rhaid i ni fod yn ofalus ohonyn nhw?

Gan ddewis offer sydd heb unrhyw rannau miniog, gofynnwch i wirfoddolwr ddod i feimio sut y byddai'r darn o offer yn cael ei ddefnyddio, e.e. gan droi gyda llwy.  Gofynnwch iddyn nhw egluro pa fwyd y gallen nhw ei baratoi gyda'r darn hwn o offer, e.e. gallwn droi cymysgedd cacennau gyda llwy.

Ailadroddwch hyn gyda'r holl offer yn gofyn i blant gwahanol helpu.  Gallech ddefnyddio chwe darn o offer yn unig ac ailadrodd y gweithgaredd hwn dro arall gyda gweddill yr offer.

 

Rhowch gynnig arni

Gweithgaredd 1 - grwpiau bach.  Gofynnwch i'r plant gwblhau jig-sos offer cegin. Efallai y byddwch am ddefnyddio ychydig o'r jig-sos ar  un tro. Cymysgwch y gwahanol rannau o bob darn o offer a chael y plant i roir’r rhannau gyda’i gilydd yn gywir. Gofynnwch i'r plant beth mae pob darn o offer yn cael ei alw, e.e. beth ydych chi'n meddwl y bydd y jig-so hwn pan fyddwch wedi dod o hyd i'r holl rannau? Wrth i'r plant ddod yn fwy cyfarwydd â'r offer, gallech ddefnyddio mwy o jig-sos ar un adeg.

Gweithgaredd 2 – Creu gweithgaredd coginio fel bod y plant yn cael cyfle i ddefnyddio gwahanol ddarnau o offer cegin. Gallech ddechrau gyda tartiau tiwna campus sy'n defnyddio detholiad o offer, gan gynnwys bwrdd torri, torwyr, tuniau pati, menig popty, powlen gymysgu a siswrn cegin. Bydd y rysáit syml yma yn rhoi cyfle i'r plant ymarfer enwi rhai darnau syml o offer a dysgu sut maen nhw'n cael eu defnyddio.

 

Atgyfnerthu

Galwch blentyn i'r ffrynt i ddewis cerdyn offer cegin, heb ddangos i’r plant eraill.  Gofynnwch i'r plentyn feimio gan ddefnyddio'r darn o offer a gweld a all y plant eraill ddyfalu beth mae'r plentyn yn ei wneud a'r darn o offer y mae'n ei ddefnyddio.

3 - 5 YR
Jig-sos offer cegin

Set o jig-sos tri rhan o offer cegin.

3 - 5 YR
Cardiau offer cegin

Set o gardiau yn dangos lluniau o offer cegin.

Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?