Gweithgareddau didoli
Dysgu
Nod y sesiwn hon yw i blant:
- cofio bod yr holl fwyd yn dod o blanhigyn neu anifail;
- didoli detholiad o fwyd yn ôl ei ffynhonnell planhigion neu anifail.
Fe fyddwch chi angen
- Detholiad o fwyd a/neu ddeunydd pacio bwyd (digon ar gyfer un i bob plentyn), e.e. afalau, winwns, moron, bresych, perlysiau, gellyg, mefus, tomatos, tatws, brocoli, blwch wyau gwag glân, carton llaeth gwag glân, pot iogwrt gwag glân, can o tiwna (heb ei agor), can o gig (heb ei agor).
Nodyn: Gwnewch yn siŵr bod y pecyn yn ddiogel i'r plant ei drin. Ni ddylech ganiatáu i blant drin pecynnu o gig amrwd neu bysgod na chaniau wedi agor.
Os na allwch ddefnyddio bwyd a/neu ddeunydd pecynnu bwyd, defnyddiwch y cardiau O ble mae bwyd yn dod.
- Cardiau O ble mae bwyd yn dod – torrwch y cardiau fel bod y ddelwedd bwyd a'r cwestiwn yn cael eu gwahanu oddi wrth y ffynhonnell fwyd.
Gwrando ac ymateb
Dangoswch ddetholiad o fwyd, pecynnau bwyd neu ddelweddau bwyd o'r cardiau O ble mae bwyd yn dod. Gofynnwch i'r plant enwi pob bwyd a dweud o ble mae'n dod. Efallai y bydd y plant yn dweud 'y siopau,' ond anogwch nhw i feddwl o ble mae'n dod cyn iddo gyrraedd y siopau. Gofynnwch i'r plant am bob bwyd:
- Beth ydy hwn?
- O ble'r mae'n dod? (Planhigyn neu anifail)
- Ydych chi wedi blasu’r bwyd hwn o'r blaen?
- Beth arall fyddech chi'n ei gael gyda'r bwyd hwn?
- Dywedwch wrth y plant i gasglu bwyd, pecyn bwyd neu gerdyn delwedd bwyd ac yna dod o hyd i le.
Yn seiliedig ar y bwyd maen nhw'n ei ddal, gofynnwch i'r plant drefnu eu hunain yn 'fwyd o blanhigion' a 'bwyd o anifeiliaid'. Rhowch funud iddyn nhw grwpio eu hunain. Gwiriwch a yw'r plant wedi didoli'u hunain yn gywir a'u holi i weld a allant egluro mwy am y bwyd sydd ganddyn nhw, e.e. a yw'n ffrwyth neu'n lysieuyn? A yw'n gig neu'n bysgod? Sut mae'n blasu? Yn olaf, dywedwch wrthyn nhw fod ein holl fwyd yn dod o blanhigyn neu anifail.
Rhowch gynnig arni
Byddwch angen y ddelwedd fwyd a rhannau ffynhonnell bwyd o'r cardiau O ble mae bwyd yn dod. Gweithio gyda’r plant mewn grwpiau o bedwar. Cymysgwch y cardiau ac yna eu troi wyneb i fyny. Gadewch i'r plant gymryd eu tro i gyfateb bwyd gyda’i'i ffynhonnell. Pan fyd y plant yn gyfforddus gyda pa fwyd sydd yn dod o ba ffynhonnell e.e. mefus o blanhigyn mefus, gallwch chwarae parau. Gallech leihau nifer y cardiau ar gyfer y gweithgaredd hwn. Trowch y cardiau wyneb i lawr a chaniatáu i'r plant, yn eu tro, ddewis dau gerdyn i geisio dod o hyd i bâr. Os ydyn nhw yn llwyddiannus, maen nhw’n cael cadw'r pâr, os nad ydyn nhw, rhaid iddyn nhw ddychwelyd y cardiau.
Atgyfnerthu
Rhowch ychydig enghreifftiau o fwyd na thrafodwyd yn ystod y sesiwn a gofynnwch i'r plant ddweud a yw'n dod o blanhigyn neu anifail.
Gallech drefnu ymweliad â rhandir neu fferm i roi profiad uniongyrchol i'r plant o ble y daw peth o'u bwyd.
Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?