Lleoedd

Nod y sesiwn hon yw i blant: enwi a thrafod mannau o lle mae bwyd yn dod, e.e. siopau, archfarchnad, gardd, rhandir.

Gweithgareddau lleoedd

Dysgu

Nod y sesiwn hon yw i blant:

  • enwi a thrafod mannau o lle mae bwyd yn dod, e.e. siopau, archfarchnad, gardd, rhandir.

 

Fe fyddwch chi angen:

  • Dalennau siopau gwahanol - wedi'u lamineiddio (dewisol)
  • Cardiau bwyd o siopau – torri allan, lamineiddio (dewisol)

 

Gwrando ac ymateb

Holwch y plant i'w cael i siarad am lefydd lle mae eu bwyd yn dod.

  • Beth wnaethoch chi ei fwyta heddiw?
  • O ble ddaeth y bwyd hwnnw? (siopau, archfarchnad, rhandir, gardd)
  • Pwy sydd wedi prynu neu dyfu'r bwyd?
  • Ydych chi erioed wedi bod yn siopa / casglu bwyd o'r ardd neu randir?
  • Beth wnaethoch chi ei weld?
  • Siop / archfarchnad - basgedi siopa, rhewgelloedd, ardaloedd oer, ffrwythau a llysiau, cig, bara.
  • Gardd/rhandir – pridd, rhaw, sied, ffrwythau, llysiau, pobl yn palu/dyfrio).
  • Beth wnaethoch chi?
  • Siop - dod o hyd i fwydydd sydd eu hangen, dewis bwyd, ei roi yn y troli, ei bacio mewn bagiau, talu.
  • Gardd/rhandir – casglu, palu, dyfrio.

 

Rhowch gynnig arni

Siaradwch â'r plant am y mathau o fwydydd y gallech eu prynu mewn siop neu archfarchnad/tyfu yn yr ardd neu'r rhandir. Eglurwch y gallwn weithiau fynd i siopau sy'n gwerthu un math o fwyd yn unig, e.e. bara a chacennau - becws, cig – cigyddion, ffrwythau a llysiau – siop lysiau, pysgod – gwerthwr pysgod. Esboniwch y gellir prynu'r holl fwydydd gwahanol hyn gyda'i gilydd mewn siopau ac mewn archfarchnadoedd yn aml.

 

Rhowch gynnig arni

Gweithgaredd 1- 4 chwaraewr. Rhowch un o'r dalenni siopau gwahanol i bob plentyn.  Siaradwch am yr hyn y mae'r gwahanol siopau yn cael eu galw, e.e. cigyddion, a gofynnwch iddyn nhw enwi rhai o'r bwydydd y gallant eu gweld. Gofynnwch iddyn nhw a ydyn nhw wedi bod yn unrhyw un o'r mathau hyn o siopau, neu os ydyn nhw wedi gweld llefydd fel hyn mewn rhannau o archfarchnad neu siop. Lledaenwch y cardiau bwyd o siopau. Cymrwch bob cerdyn a gofynnwch i'r plant enwi'r bwyd a phenderfynu a yw'n dod o'r siop ar eu dalen. Os ydy'r bwyd yn perthyn ar ddalen plentyn, gallant ei roi ar un o'r mannau sgwâr.  Parhewch nes bod pob un o'r plant wedi gorchuddio'r holl sgwariau ar eu dalen.

Gweithgaredd 2 – grŵp bach. Gweithiwch gyda'r plant i greu modelau 3D o fwydydd y gellir eu prynu mewn siopau neu archfarchnadoedd neu eu tyfu mewn rhandiroedd neu ardd. Gall y plant wneud eu modelau o does, a gellid eu paentio a'u defnyddio wedyn mewn gêm siopa / garddio ddychmygol.  Gallech roi thema i grwpiau gwahanol, e.e. bwydydd o becws, cigyddion, siopau llysiau, gwerthwr pysgod.  Wrth i'r plant wneud eu modelau, siaradwch â nhw am eu profiadau unigol o siopa neu gynaeafu bwyd. 

 

Atgyfnerthu

Crewch archfarchnad neu siopau unigol yn yr ardal chwarae dychmygol. Os oes gennych fwydydd tegan gallech ddefnyddio'r rhain, neu, os ydyn nhw yn addas, y modelau o fwydydd a wnaeth y plant. Dangoswch daith siopa/gweithgaredd garddio dychmygol gyda'r plant. Gofynnwch i rai o'r plant gymryd rôl rhiant neu ofalwr, plentyn ac ariannwr. Chwaraewch rôl ymweliad â'r siop/rhandir gyda'r plant i'w cael i ddechrau. Gadewch i'r plant greu eu gemau eu hunain yn seiliedig ar y syniad hwn.

3 - 5 YR
Bwyd o siopau

Set o gardiau bwyd.

3 - 5 YR
Siopau gwahanol

Set o gardiau sy'n dangos gwahanol siopau.

Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?