Tyfu

Nod y sesiwn hon yw i blant: esbonio bod peth o'n bwyd yn dod o blanhigion, ond ni allwn fwyta pob planhigyn; disgrifio beth sydd ei angen ar blanhigyn er mwyn tyfu'n dda; dangos sut i ofalu am, a bod yn rhan o'r gwaith o ofalu am blanhigyn/ion.

Gweithgareddau tyfu

Dysgu

Nod y sesiwn hon yw i blant:

  • esbonio bod peth o'n bwyd yn dod o blanhigion, ond ni allwn fwyta pob planhigyn;
  • disgrifio beth sydd ei angen ar blanhigyn er mwyn tyfu'n dda;
  • dangos sut i ofalu am, a bod yn rhan o'r gwaith o ofalu am blanhigyn/ion. 

 

Fe fyddwch chi angen

  • Planhigyn perlysiau, e.e. basil, coriander, mintys
  • Dalen Sut i dyfu cennin syfi (Neu, gallech brynu hadau a dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn, e.e. berwr, letys, radis, shibwns.)
  • Offer ar gyfer tyfu planhigion (Gweler y ddalen Sut i dyfu cennin syfi neu gyfarwyddiadau'r pecyn os ydych chi'n tyfu planhigyn arall.)
  • Dalen dyfrio planhigion

 

Gwrando ac ymateb

Dangoswch blanhigyn perlysiau i'r plant, e.e. basil, coriander neu mintys, a'u holi:

  • Beth ydy hwn? (Planhigyn planhigion.)
  • O ble mae’r planhigyn hwn wedi dod? Mae wedi tyfu o hedyn)
  • Beth sydd ei angen ar blanhigyn i dyfu'n dda? (Dŵr, golau.)
  • Beth fyddai'n rhaid i ni ei wneud petaen ni eisiau tyfu planhigyn? (Cael pot planhigion, compost, hadau...)
  • Sut allwn ni ofalu amdano? (Rhoi dŵr iddo, ei gadw mewn lle heulog.)

Eglurwch y gellir bwyta rhai planhigion ac ni ellir bwyta rhai planhigion.  Eglurwch fod hwn yn blanhigyn perlysiau a gellir bwyta ei ddail. Mae angen eu tynnu oddi ar y planhigyn a'u golchi, yna gellir eu hychwanegu at brydau gwahanol i roi blas. Rhwygwch ychydig o ddail a'u pasio o gwmpas i'r plant eu harogli. Gofynnwch iddyn nhw ddisgrifio sut beth ydyw. Eglurwch y byddwch yn tyfu rhai planhigion y gellir eu bwyta.  Ail-bwysleisio nad oes modd bwyta pob planhigyn ac ni ddylem fwyta planhigion oni bai bod oedolyn yn dweud wrthyn ni ei fod yn iawn.

 

Rhowch gynnig arni

Gweithiwch gyda’r plant mewn grwpiau o bedwar. Eglurwch eich bod yn mynd i dyfu cennin syfi a bod cennin syfi yn fath o berlysiau. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y ddalen Sut i dyfu cennin syfi. Siaradwch â'r plant ar bob cam o'r hyn rydych chi a'r plant yn ei wneud.  Helpwch feithrin agwedd ofalgar yn y plant trwy eu hannog i blannu'r hadau yn araf ac yn ofalus. Siaradwch am ddyfrio a dangos sut i wneud hynny yn ofalus.

Sefydwch rota gofalu i ddangos pwy fydd yn dyfrhau'r planhigion. Gallwch ddefnyddio'r ddalen ddyfrio planhigion i gadw cofnod.

 

Atgyfnerthu

Ar ôl tyfu eich planhigyn, paratowch fwyd sy'n rhoi cyfle i'r plant ddefnyddio'r planhigyn fel cynhwysyn. Gallech ychwanegu gennin syfi neu ferwr at rai o'r ryseitiau ar y wefan Bwyd – ffeithiau bywyd, megis tartiau tiwna campus, salad tymhorol penigamp, brwsheta Bagel a reis.

3 - 5 YR
Dalen dyfrio planhigion

Dalen waith i gofnodi pwy fydd yn dyfrio’r planhigion.

3 - 5 YR
Sut i dyfu cennin syfi

Dalen ffeithiau am sut i dyfu cennin syfi.

Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?