Tymorhau

Nod y sesiwn hon yw i blant: esbonio bod ffrwythau a llysiau gwahanol yn barod i'w bwyta ar wahanol adegau o'r flwyddyn (mewn gwahanol dymhorau); casglu eu salad tymhorol eu hunain trwy ddewis a chyfuno cynhwysion.

Gweithgareddau'r tymorhau

Dysgu

Nod y sesiwn hon yw i blant:

  • esbonio bod ffrwythau a llysiau gwahanol yn barod i'w bwyta ar wahanol adegau o'r flwyddyn (mewn gwahanol dymhorau);
  • casglu eu salad tymhorol eu hunain trwy ddewis a chyfuno cynhwysion.

 

Fe fyddwch chi angen

  • Rysáit salad tymhorol penigamp– dewiswch gynhwysion o'r tymor lle mae'r sesiwn hon yn cael ei rhedeg
  • Cardiau tymor
  • Cardiau paratoi i goginio
  • Creu canllaw sesiwn coginio

 

Cyn paratoi'r sesiwn
Paratowch y cynhwysion a'r offer ymlaen llaw. Mae'r hyn y bydd ei angen arnoch wedi'i restru ar y rysáit salad tymhorol penigamp. Cyfeiriwch at y canllaw creu sesiwn goginio i’ch helpu i drefnu eich sesiwn

 

Gwrando ac ymateb

Defnyddiwch y cwestiynau isod i weld a yw'r plant yn gwybod enw'r tymor presennol a beth ydy enwau’r tymhorau eraill:

  • Pa adeg o'r flwyddyn ydy hi nawr?
  • Pa adeg o'r flwyddyn ydy hi pan fydd dail yn troi’n oren ac yn dechrau disgyn oddi ar y coed? (Yr hydref.)
  • Pa adeg o'r flwyddyn ydy hi pan mae'r dail i gyd wedi disgyn oddi ar y coed, ac mae'n oerach? (Y gaeaf.)
  • Pa adeg o'r flwyddyn ydy hi pan mae'n gynhesach a rhai pobl yn dechrau gwisgo crysau-t? (Haf.)
  • Pa adeg o'r flwyddyn ydy hi pan mae'n gallu bod braidd yn oer, ond mae blodau newydd fel eirlysiau yn dechrau ymddangos? (Gwanwyn.)

 

Eglurwch fod pedwar amser gwahanol mewn blwyddyn ac mae'r amseroedd gwahanol hyn yn cael eu galw'n dymhorau – y Gwanwyn, yr Haf, yr Hydref a'r Gaeaf.  Dangoswch y cardiau  tymhorau un ar y tro a darllen enw'r tymor.  Siaradwch am y misoedd sy'n cael eu cynnwys yn y tymor hwn a phwy ymhlith y plant sy'n cael pen-blwydd yn y misoedd hynny.  Gofynnwch i'r plant pa fwydydd y gallan nhw eu gweld ac eglurwch mai dyma'r tymhorau pan fydd y ffrwythau a'r llysiau hyn wedi gorffen tyfu ac yn barod i'w bwyta (yn y DU). Ewch drwy bob tymor eto yn ei dro, a gofynnwch i'r plant pa un yw eu hoff fwyd Gwanwyn/Haf/Hydref/Gaeaf ar y cerdyn. 

 

Rhowch gynnig arni

Trefnwch y plant yn grwpiau o bedwar. Gall pob grŵp gymryd eu tro i weithio gydag oedolyn i wneud salad tymhorol. Gwnewch yn siŵr bod y plant yn barod i goginio trwy ddefnyddio'r cardiau Paratoi i goginio i  siarad am y camau y mae angen iddyn nhw eu cymryd. Cyfeiriwch at y canllaw creu sesiwn goginio i gael mwy o wybodaeth am pam mae pob cam yn bwysig.

Esboniwch i'r plant y byddan nhw yn gwneud  salad tymhorol penigamp (gweler rysáit salad tymhorol penigamp).  Esboniwch fod gennych ffrwythau a llysiau o'r tymor presennol (enw'r tymor) ac y byddan nhw yn dewis oddi wrthynt i wneud eu salad. Siaradwch drwy'r bwydydd a dangoswch i'r plant sut i gasglul eu salad at ei gilydd. Gadewch i'r plant wneud eu saladau eu hunain, gan ddewis y cynhwysion y maen nhw am eu hychwanegu. Pan fydd y salad wedi'i orffen, gadewch i'r plant eu bwyta.  Anogwch y plant i ddisgrifio sut mae'r saladau'n blasu.

 

Atgyfnerthu

Trefnwch ymweliad â fferm neu randir neu daith gerdded lle bydd plant yn gallu gweld ffrwythau neu lysiau yn tyfu, e.e. mwyar duon ar lwyni, afalau ar goed, moron neu blanhigion tatws.

Gwrando ar ganeuon neu ddarllen straeon am y tymhorau.

3 - 5 YR
Cardiau tymor

Set o gardiau o gwmpas y pedwar tymor.

3 - 5 YR
Cardiau paratoi i goginio

Pump cerdyn as phob un yn dangos cam paratoi i goginio

3 - 5 YR
Creu sesiwn goginio

Canllaw i gefnogi creu sesiwn goginio.

Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?