Pecyn gweithgareddau llysiau
Mae bwyta digon o wahanol fathau o lysiau yn bwysig i iechyd, a gall arferion bwyta a ddatblygwyd yn gynnar barhau i mewn i fywyd diweddarach. Mae hyn yn golygu bod y blynyddoedd cyn-ysgol yn amser pwysig i blant archwilio a phrofi amrywiaeth eang o lysiau (a bwyd arall) i'w gosod ar y trywydd cywir am oes o fwynhau diet iach ac amrywiol.
Mae'r canlynol yn ddetholiad o weithgareddau hwyliog y gellid eu defnyddio i helpu i annog plant i fwyta llysiau trwy eu dysgu mewn lleoliad cyn-ysgol a/neu gartref.
Dangosodd ymchwil a wnaed gan Brifysgol Reading y gall edrych ar lyfrau lluniau syml o ble mae llysiau'n dod, sut maen nhw'n tyfu, eu gwerthu mewn siopau, eu paratoi a'u hystyried pan fyddan nhw yn barod i'w bwyta, helpu plant cyn oed ysgol i ddysgu hoffi llysiau nad ydyn nhw wedi eu blasu o'r blaen neu nad oedden nhw yn eu hoffi o'r blaen. Y seicoleg y tu ôl i hyn yw y gall gweld delweddau o fwyd wneud iddo deimlo'n fwy cyfarwydd a gall helpu i leihau'r pryder naturiol sydd gan lawer o blant ifanc am flasu bwyd newydd, sy'n golygu y gallan nhw wedyn dderbyn llysiau gwahanol yn fwy parod. Yn ogystal â'r awgrymiadau isod, mae ystod o 24 e-lyfr yn rhad ac am ddim yma: https://www.seeandeat.org/
Mae'r adnoddau yn y pecyn gweithgareddau Llysiau yn cwrdd â'r Canllawiau ar gyfer cynhyrchwyr a defnyddwyr adnoddau addysg ysgol am fwyd.
Llythrennedd a rhifedd
- Cardiau llysiau A i Y – set o 28 cerdyn, pob un â llythyren o'r wyddor. Gellir defnyddio'r rhain mewn amrywiaeth o ffyrdd, o gyflwyno llysiau newydd i blant i ddysgu'r wyddor!
- 4 gwaith 5 llysiau – mae'r gweithgaredd hwn yn dangos pump o lysiau gwahanol ar bedwar cerdyn. Gellir defnyddio'r cardiau fel gêm paru;
- gellid eu cuddio o amgylch ystafell i blant ddod o hyd i un o bob un neu bob un o'r pedwar.
- Fy hoff lysiau - mae'n rhaid i blant enwi a thynnu llun pump o lysiau gwahanol. Mae angen iddyn nhw dicio pob delwedd bob tro y byddan nhw yn bwyta'r llysiau. Mae hyn yn helpu i atgyfnerthu bwyta llysiau.
- Y sbrowten unig – gofynnir i blant helpu'r sbrowten unig drwy ddrama a chwarae!
- Beth yw'r llysiau – mae'r daflen waith yn cynnwys pump o lysiau gwahanol. Mae angen i blant enwi pob un, a nodi faint sydd o bob math ar y daflen. Gallant hefyd liwio pob llysieuyn.
- Cymerwch ysbrydoliaeth o'r stori anrheg lliwgar! Defnyddiwch y stori a chanolbwyntiwch ar lysiau. Mae llawer o adnoddau i'w cefnogi hefyd!
Person dweud ffortiwn llysiau (gwag)
Dalen waith i gefnogi dysgu blynyddoedd cynnar am lysiau.
Person dweud ffortiwn llysiau (cyflawn)
Person dweud ffortiwn llysiau.
Beth ydy’r llysiau?
Dalen waith i gefnogi dysgu blynyddoedd cynnar am lysiau.
Pe bawn i yn lysieuyn
Dalen waith i gefnogi dysgu blynyddoedd cynnar am Lysiau.
Fy hoff lysiau
Dalen waith i gefnogi dysgu bllynyddoedd cynnar am lysiau.
Y sbrowten unig
Dalen waith i gefnogi dysgu blynyddoedd cynnar am lysiau.
Y byd o'n cwmpas
- Cardiau lle rydyn ni’n prynu llysiau – set o bum cerdyn yn dangos llefydd gwahanol y gallwn ni brynu lysiau. Ysgogiad defnyddiol i ddechrau trafodaeth neu i wneud arddangosfa.
- Tyfu eich llysiau eich hun – canllaw cychwynnol i dyfu llysiau! Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael yma hefyd. Beth am dyfu tatws? Defnyddiwch stori 'Yr ardd fwced' fel sbardun i ddechrau tyfu!
- Taith llysiau – dilynwch y daith o'r fferm i'r fforc gyda moron, tatws a thomatos. Beth am greu eich taith lysiau eich hun yn y dosbarth?
- Tymhorau – defnyddiwch yr adran hon o adnoddau i gyflwyno'r tymhorau i blant. Archwilio pa lysiau sydd yn eu tymor ar wahanol adegau o'r flwyddyn
Tyfu eich llysiau eich hun
Dalen waith i gefnogi dysgu blynyddoedd cynnar am lysiau.
Cardiau lle rydyn ni’n prynu llysiau
Gweithgaredd cardiau i gefnogi dysgu blynyddoedd cynnar am lysiau.
Tomatos - y daith
Set o gardiau lluniau yn dangos taith tomatos - o'r cae i'r fforc.
Tatws - y daith
Set o gardiau lluniau yn dangos taith tatws - o'r cae i'r fforc.
Moron - y daith
Set o gardiau lluniau yn dangos taith moron - o'r cae i'r fforc.
Creadigrwydd
- Pe bawn i'n llysiau - gweithgaredd hwyliog lle mae plant yn dychmygu eu hunain fel llysiau! Pa fath o berson fydden nhw a pham? Mae'r plant yn cael y dasg o dynnu lluniau o’r llysiau.
- Person dweud ffortiwn llysiau (yn wag ac yn gyflawn) – gall plant wneud rhai eu hunain neu ddefnyddio esiampl i ddarganfod eu hoff lysiau! Byddwch yn greadigol gyda phensiliau a pheniau! (Cliciwch Yma i weld sut.)
- Dot-i-dot llysiau - detholiad o lysiau dot-i-dot, dim ond argraffu a defnyddio! Mae yna brocoli, moron, nionyn, pupur, tatws, pwmpen, radis a tomato.
- Os ydych chi am baratoi a gwneud rhywbeth gyda llysiau, edrychwch ar ein cyngor yma. Mae yna hefyd lawer o ryseitiau i'w chwilio yma.
Person dweud ffortiwn llysiau (cyflawn)
Person dweud ffortiwn llysiau.
Person dweud ffortiwn llysiau (gwag)
Dalen waith i gefnogi dysgu blynyddoedd cynnar am lysiau.
Pe bawn i yn lysieuyn
Dalen waith i gefnogi dysgu blynyddoedd cynnar am Lysiau.
Dot i dot - Tomato
Dalen waith am tomato.
Dot i dot – Afal
Dalen waith am afal.
Dot i dot – Banana
Dalen waith am banana.
Dot i dot – Brocoli
Dalen waith am frocoli.
Dot i dot – Moron
Dalen waith am foron.
Dot i dot – Winwns
Dalen waith am winwns.
Dot i dot – Gellyg
Dalen waith am gellyg.
Dot i dot – Pupur
Dalen waith am bupur.
Dot i dot – Mefus
Dalen waith am fefus.
Dot i dot – Radis
Dalen waith am radis.
Dot i dot – Pwmpen
Dalen waith am bwmpen.
Dot i dot – Tatws
Dalen waith am datws.
Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?