Tost blasus

Nod y sesiwn hon yw archwilio pwysigrwydd cael rhywbeth iach i'w fwyta a'i yfed bob dydd i frecwast. Mae'r prif weithgaredd, Rhowch gynnig arni, yn cynnwys dewis ac ychwanegu topin ar dost. Bydd plant yn blasu gwahanol dopin, yn dewis eu ffefrynnau ac yn paratoi eu tost eu hunain gan ddefnyddio'r rhain.

Dysgu

Nod y sesiwn hon yw i blant:

  • cofio y dylen nhw gael brecwast bob dydd;
  • gweld bod modd bwyta tost yn ystod amser brecwast;
  • blasu a dewis opsiynau bwyd i ychwanegu at eu tost;
  • perfformio sgiliau bwyd syml, yn ddiogel, e.e. taenu, trefnu.

Fe fyddwch chi angen

  • Rysáit tost blasus a'r cynhwysion a'r offer a restrir ar y rysáit
  • Canllaw blasu
  • Creu canllaw sesiwn coginio
  • Cardiau paratoi i goginio - torri allan a'u lamineiddio
  • platiau bach neu bapur cegin
  • gêm parau brecwast x 2 copi, torri allan a'u lamineiddio
  • dalen tost blasus i fynd gartref
3 - 5 YR
Cynllun sesiwn tost blasus

Nodiadau’r arweinydd ar gyfer y sesiwn tost blasus.

3 - 5 YR
Gêm parau brecwast

Gêm gardiau yn cynnwys paru.

3 - 5 YR
Dalen tost blasus i fynd gartref

Dalen weithgaredd mynd gartref i annog plant i gael brecwast.

3 - 5 YR
Canllaw blasu

Canllaw i gefnogi cynnal sesiwn blasu bwyd.

3 - 5 YR
Creu sesiwn goginio

Canllaw i gefnogi creu sesiwn goginio.

3 - 5 YR
Cardiau paratoi i goginio

Pump cerdyn as phob un yn dangos cam paratoi i goginio

Is there something wrong with the page? Do you have a suggestion or would like to see something on this page?